Iona LloydAUBREY24ain o Ragfyr 2024. Yn sydyn, ond yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, wedi salwch byr, yn 82 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Garth Byr, Llandecwyn. Gwraig ffyddlon y diweddar David Wilfred Aubrey, Mam annwyl, ymroddedig a chefnogol Heulwen, Gwen a Dylan, a'u partneriaid Kevin a Gary a nain annwyl Catrin, Gruffydd a Megan. Merch gariadus a gofalgar y diweddar Robert Gruffydd a Mary Lloyd Williams, chwaer hoffus y diweddar John a Gwynfor Williams a chwaer yng nghyfraith annwyl Beryl Williams ac Arwel a John Aubrey a'r diweddar Megan Williams. Gwasanaeth hollol breifat yn unol â'i dymuniad a blodau'r teulu'n unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Iona tuag at Neuadd Gymuned, Talsarnau drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths.
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd, LL49 9RH 01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates